1. Dyma Heseceia yn anfon neges allan drwy Israel a Jwda gyfan. Anfonodd lythyrau at lwythau Effraim a Manasse hefyd. Roedd yn galw pawb i ddod i'r deml yn Jerwsalem i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel.
2. Roedd y brenin wedi cytuno gyda'r arweinwyr a phobl Jerwsalem i gadw'r Pasg yn yr ail fis.
3. Roedden nhw'n methu ei gadw ar yr adeg iawn am fod dim digon o offeiriad wedi bod trwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a doedd y bobl ddim wedi cael cyfle i ddod i Jerwsalem.
4. Felly roedd y brenin a'r bobl yn meddwl mai dyma'r cynllun gorau.
5. Dyma nhw'n anfon neges allan drwy Israel gyfan, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Roedd pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Doedden nhw ddim wedi bod yn cadw'r Pasg fel Gŵyl genedlaethol, fel roedd y Gyfraith yn dweud.
6. Cafodd negeswyr eu hanfon allan i bobman yn Israel a Jwda gyda llythyr oddi wrth y brenin a'r arweinwyr. A dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:“Bobl Israel, trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, iddo fe droi'n ôl atoch chi, yr ychydig sydd wedi dianc o afael brenhinoedd Asyria.
7. Peidiwch bod fel eich tadau a'ch brodyr oedd yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyna pam cawson nhw eu cosbi ganddo, fel dych chi'n gweld.