Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 26:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. Roedd gan Wseia fyddin o filwyr yn barod i ryfela. Roedden nhw wedi cael eu trefnu yn gatrawdau gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia oedd yn swyddog yn y fyddin. Chananeia, un o swyddogion y brenin, oedd yn goruchwylio'r cyfan.

12. Roedd yna 2,600 o bennau teuluoedd yn arwain catrawd o filwyr yn y fyddin.

13. Roedd byddin o 370,500 o filwyr ganddyn nhw, yn barod i amddiffyn y brenin yn erbyn ei elynion.

14. Dyma Wseia'n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i'r fyddin gyfan.

15. Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.

16. Ond wrth fynd yn gryf dyma fe'n troi'n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu'n anffyddlon i'r ARGLWYDD ei Dduw. Aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD a llosgi arogldarth ar allor yr arogldarth.

17. Dyma Asareia ac wyth deg o offeiriaid dewr yn mynd ar ei ôl.

18. Dyma nhw'n herio Wseia a dweud wrtho, “Nid dy le di, Wseia, ydy llosgi arogldarth i'r ARGLWYDD. Cyfrifoldeb yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, ydy gwneud hynny. Maen nhw wedi cael eu neilltuo'n arbennig i'r gwaith. Dos allan o'r deml. Ti wedi bod yn anffyddlon, a fydd yr ARGLWYDD ddim yn dy anrhydeddu di am hyn.”

19. Roedd Wseia wedi gwylltio. Roedd ganddo lestr o arogldarth yn ei law, ac wrth iddo arthio a gweiddi ar yr offeiriaid dyma glefyd heintus yn torri allan ar ei dalcen. Digwyddodd hyn o flaen llygaid yr offeiriaid, yn y deml wrth ymyl allor yr arogldarth.

20. Pan welodd Asareia'r archoffeiriad, a'r offeiriaid eraill, y dolur ar ei dalcen, dyma nhw'n ei hel allan ar frys. Yn wir roedd e ei hun yn brysio i fynd allan gan mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei daro'n wael.

21. Bu Wseia'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb arall, a doedd e ddim yn cael mynd i deml yr ARGLWYDD. Ei fab Jotham oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny.

22. Mae gweddill hanes Wseia, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu gan y proffwyd Eseia fab Amos.

23. Pan fu farw, cafodd Wseia ei gladdu heb fod yn bell o ble claddwyd ei hynafiaid, ond mewn mynwent arall oedd yn perthyn i'r brenhinoedd. (Cafodd ei osod ar wahân am ei fod yn dioddef o glefyd heintus ar y croen.) A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 26