Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 26:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma bobl Jwda yn cymryd Wseia, oedd yn un deg chwech mlwydd oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.

2. Adeiladodd Wseia dref Elat a'i hadfer i Jwda ar ôl i'r brenin Amaseia farw.

3. Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Jecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.

4. Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.

5. Sechareia oedd cynghorydd ysbrydol Wseia, a tra roedd Sechareia'n fyw roedd Wseia'n dilyn yr ARGLWYDD, ac roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo.

6. Aeth i ryfel yn erbyn y Philistiaid, a chwalu waliau Gath, Iabne ac Ashdod. Wedyn adeiladodd drefi yn ardal Ashdod ac ar hyd a lled tiriogaeth y Philistiaid.

7. Roedd Duw wedi ei helpu yn ei ymgyrchoedd yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gwr-baal, a'r Mewniaid.

8. Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf.

9. Dyma Wseia'n adeiladu a chryfhau tyrau amddiffynnol yn Jerwsalem, wrth Giât y Gornel, Giât y Dyffryn a lle mae'r ongl yn y wal.

10. Adeiladodd dyrau amddiffynnol a chloddio pydewau yn yr anialwch hefyd, gan fod ganddo lawer o anifeiliaid yn Seffela ac ar y gwastadedd. Roedd yn hoff iawn o ffermio. Roedd ganddo weithiwr yn trin y tir a gofalu am y gwinllannoedd ar y bryniau ac yn Carmel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 26