Dyma Amaseia'n casglu dynion Jwda at ei gilydd a rhoi trefn ar ei fyddin drwy benodi capteniaid ar unedau o fil a capteiniaid ar unedau o gant, a gosod teuluoedd Jwda a Benjamin yn yr unedau hynny. Dyma fe'n cyfrif y rhai oedd yn ddau ddeg oed neu'n hŷn, ac roedd yna 300,000 o ddynion da yn barod i ymladd gyda gwaywffyn a thariannau.