Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 24:10-23 beibl.net 2015 (BNET)

10. A dyma'r arweinwyr a'r bobl i gyd yn gwneud hynny'n frwd, ac yn taflu'r arian i'r gist nes oedd hi'n llawn.

11. Wedyn pan oedd y Lefiaid yn gweld fod y gist yn llawn, roedden nhw'n mynd â hi at swyddogion y brenin. Yna roedd ysgrifennydd y brenin a'r prif-offeiriad yn gwagio'r gist ac yna mynd â hi yn ôl i'w lle. Roedd hyn yn digwydd bob dydd am amser hir, a dyma nhw'n casglu lot fawr o arian.

12. Wedyn roedd y brenin a Jehoiada yn rhoi'r arian i'r dynion oedd yn arolygu'r gwaith ar deml yr ARGLWYDD.

13. Roedden nhw'n ei ddefnyddio i gyflogi seiri maen a seiri coed, gweithwyr haearn a chrefftwyr pres i atgyweirio a thrwsio teml yr ARGLWYDD.

14. Pan oedden nhw wedi gorffen eu gwaith, dyma nhw'n mynd â'r arian oedd yn weddill yn ôl i'r brenin a Jehoiada. Cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio i wneud offer i deml yr ARGLWYDD – offer ar gyfer y gwasanaethau a'r offrymau i'w llosgi, powlenni arogldarth, a llestri eraill o aur ac arian. Roedd offrymau i'w llosgi yn cael eu cyflwyno'n gyson yn y deml ar hyd y cyfnod pan oedd Jehoiada yn fyw.

15. Dyma Jehoiada yn byw i fod yn hen iawn. Bu farw yn gant tri deg oed.

16. Cafodd ei gladdu yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd, am ei fod wedi gwneud cymaint o dda i Israel ar ran Duw a'i deml.

17. Ar ôl i Jehoiada farw, dyma arweinwyr Jwda yn dod i gydnabod y brenin. Ond dyma fe'n gwrando ar eu cyngor nhw,

18. troi cefn ar deml yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a dechrau addoli'r dduwies Ashera a'r delwau. Roedd Duw wedi digio go iawn hefo pobl Jwda a Jerwsalem am iddyn nhw wneud hyn.

19. Anfonodd yr ARGLWYDD broffwydi atyn nhw i'w cael i droi yn ôl ato, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw.

20. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Sechareia (mab Jehoiada'r offeiriad), a dyma fe'n sefyll o flaen y bobl a cyhoeddi, “Dyma mae Duw'n ddweud. ‘Pam ydych chi'n torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Fyddwch chi ddim yn llwyddo. Am i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD, mae e wedi troi cefn arnoch chi.’”

21. Ond dyma nhw'n cynllwynio yn ei erbyn, a dyma'r brenin yn gorchymyn ei ladd trwy daflu cerrig ato yn iard y deml.

22. Wnaeth Joas y brenin ddim meddwl mor ffyddlon oedd Jehoiada (tad Sechareia) wedi bod iddo, a dyma fe'n lladd ei fab. Wrth iddo farw, dyma Sechareia'n dweud, “Boed i'r ARGLWYDD weld hyn a dy ddal di'n gyfrifol.”

23. Ar ddiwedd y flwyddyn honno, dyma byddin Syria'n dod i ryfela yn erbyn Joas. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda a Jerwsalem ac yn lladd yr arweinwyr i gyd, a dwyn popeth o werth a'i gymryd i frenin Damascus.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 24