1. Roedd Joas yn saith oed pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Sifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba.
2. Pan oedd Jehoiada'r offeiriad yn dal yn fyw, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
3. Jehoiada wnaeth ddewis dwy wraig iddo, a cafodd y ddwy blant iddo – meibion a merched.
4. Dyma Joas yn penderfynu atgyweirio teml yr ARGLWYDD.
5. Galwodd yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Ewch i drefi Jwda i gyd a casglu'r dreth flynyddol gan bobl Israel, i drwsio teml eich Duw. A gwnewch y peth ar unwaith!” Ond dyma'r Lefiaid yn oedi.
6. Felly dyma'r brenin yn galw Jehoiada'r archoffeiriad i fynd i'w weld, a gofyn iddo, “Pam wyt ti ddim wedi cael y Lefiaid i gasglu'r dreth osododd Moses ar bobl Israel tuag at gynnal pabell y dystiolaeth? Roedden nhw i fod i fynd allan drwy Jwda a Jerwsalem yn ei gasglu.”
7. (Roedd y wraig ddrwg yna, Athaleia, a'i meibion, wedi torri i mewn i deml Dduw a defnyddio llestri cysegredig teml yr ARGLWYDD i addoli duwiau Baal!)
8. Felly dyma'r brenin yn gorchymyn gwneud cist i'w gosod tu allan i'r giât oedd yn arwain i deml yr ARGLWYDD.
9. Wedyn dyma neges yn cael ei hanfon allan drwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i'r bobl ddod i dalu'r dreth oedd Moses, gwas Duw, wedi ei osod ar bobl Israel yn yr anialwch.
10. A dyma'r arweinwyr a'r bobl i gyd yn gwneud hynny'n frwd, ac yn taflu'r arian i'r gist nes oedd hi'n llawn.
11. Wedyn pan oedd y Lefiaid yn gweld fod y gist yn llawn, roedden nhw'n mynd â hi at swyddogion y brenin. Yna roedd ysgrifennydd y brenin a'r prif-offeiriad yn gwagio'r gist ac yna mynd â hi yn ôl i'w lle. Roedd hyn yn digwydd bob dydd am amser hir, a dyma nhw'n casglu lot fawr o arian.
12. Wedyn roedd y brenin a Jehoiada yn rhoi'r arian i'r dynion oedd yn arolygu'r gwaith ar deml yr ARGLWYDD.