Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a'r cerddorion gyda'i hofferynnau yn arwain y dathlu.Pan welodd hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”