Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw.Ac roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd, ac ennill annibyniaeth. Roedd hyn wedi digwydd am fod Jehoram wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.