Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 20:24-37 beibl.net 2015 (BNET)

24. Erbyn i fyddin Jwda gyrraedd y tŵr gwylio sy'n edrych allan i'r anialwch, y cwbl oedd ar ôl o'r fyddin fawr oedd cyrff marw ar lawr. Roedden nhw i gyd wedi eu lladd!

25. Dyma Jehosaffat a'i filwyr yn mynd i gasglu beth allen nhw, a chael cymaint o offer, dillad a phethau gwerthfawr, roedd gormod ohono i'w gario! Cymerodd dri diwrnod cyfan iddyn nhw gasglu'r cwbl!

26. Ar y pedwerydd diwrnod dyma pawb yn casglu at ei gilydd yn Nyffryn Beracha i addoli'r ARGLWYDD (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Beracha – sef Dyffryn y Fendith – hyd heddiw.)

27. Yna dyma Jehosaffat yn arwain y dynion i gyd yn ôl i Jerwsalem yn llawen. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi rheswm da iddyn nhw ddathlu!

28. Dyma nhw'n mynd i mewn i'r ddinas i sŵn nablau, telynau ac utgyrn, a dyma nhw'n mynd yn syth i deml yr ARGLWYDD.

29. Roedd gan y gwledydd o'u cwmpas ofn Duw ar ôl clywed sut roedd yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.

30. Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad.

31. Daeth Jehosaffat yn frenin ar Jwda pan oedd yn dri deg pump oed. Bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.

32. Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat bethau oedd yn plesio'r ARGLWYDD.

33. Ond gafodd yr allorau lleol ddim eu cymryd i ffwrdd, a doedd y bobl yn dal ddim yn hollol ffyddlon i Dduw eu hynafiaid.

34. Mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, i'w cael yn Negeseuon Jehw fab Chanani, sydd wedi ei gadw yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Israel.

35. Yn ddiweddarach dyma Jehosaffat, brenin Jwda yn dod i gytundeb gydag Ahaseia, brenin Israel, oedd yn frenin drwg.

36. Dyma nhw'n cytuno i adeiladu llongau masnach mawr ym mhorthladd Etsion-geber.

37. A dyma Elieser fab Dodafa o Maresha yn proffwydo yn erbyn Jehosaffat, “Am dy fod ti wedi dod i gytundeb gydag Ahaseia, bydd yr ARGLWYDD yn dryllio dy waith.” A cafodd y llongau eu dryllio, a wnaethon nhw erioed hwylio.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 20