Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 2:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Solomon yn gorchymyn adeiladu teml i'r ARGLWYDD a palas brenhinol iddo'i hun.

2. Roedd gan Solomon 70,000 o labrwyr, 80,000 o chwarelwyr yn y bryniau, a 3,600 o fformyn i arolygu'r gweithwyr.

3. Dyma Solomon yn anfon neges at Huram, brenin Tyrus: “Wnei di fy helpu i, fel gwnest ti helpu fy nhad Dafydd? Gwnest ti anfon coed cedrwydd iddo fe i adeiladu ei balas.

4. Dw i'n mynd i adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Bydd yn cael ei chysegru i losgi arogldarth persawrus iddo, gosod y bara o'i flaen, a chyflwyno offrymau sydd i'w llosgi'n llwyr iddo bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill mae'r ARGLWYDD ein Duw yn eu pennu. Mae pobl Israel i fod i wneud y pethau yma bob amser.

5. Dw i'n mynd i adeiladu teml wych iddo, am fod ein Duw ni yn fwy na'r duwiau eraill i gyd.

6. Ond wedyn, pwy sy'n gallu adeiladu teml iddo fe, gan fod yr awyr a'r nefoedd uchod ddim digon mawr iddo? Pwy ydw i i adeiladu teml iddo! Dim ond lle i aberthu iddo fydd hi.

7. “Anfon grefftwr medrus ata i sy'n gweithio gydag aur, arian, pres a haearn, a hefyd lliain porffor, coch a glas, ac yn gallu cerfio. Gall e weithio gyda'r crefftwyr sydd gen i yma yn Jerwsalem a Jwda, y rhai wnaeth fy nhad Dafydd eu dewis.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 2