Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 19:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan gyrhaeddodd Jehosaffat adre'n ôl yn saff i'r palas yn Jerwsalem,

2. dyma'r proffwyd Jehw fab Chanani yn mynd i'w weld. Dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Ydy'n iawn dy fod ti'n helpu'r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy'n casáu yr ARGLWYDD? Mae'r ARGLWYDD wedi digio go iawn hefo ti am wneud y fath beth.

3. Ac eto ti wedi gwneud pethau da. Rwyt ti wedi cael gwared â pholion y dduwies Ashera o'r wlad ac wedi bod yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD.”

4. Roedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond roedd yn mynd allan at y bobl i bob rhan o'r wlad, o Beersheba i fryniau Effraim, i'w hannog nhw i droi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.

5. Penododd farnwyr ym mhob un o drefi caerog Jwda,

6. a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chi'n wneud. Dim plesio pobl ydy'ch gwaith chi. Dych chi'n barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny.

7. Dangoswch barch ato a gwneud beth sy'n iawn. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn hoffi anghyfiawnder, dangos ffafriaeth na derbyn breib.”

8. Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl.

9. Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 19