Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 18:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi'n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?”

16. A dyma Michea'n dweud,“Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau,fel defaid heb fugail.A dyma'r ARGLWYDD yn dweud,‘Does ganddyn nhw ddim meistri.Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’”

17. Dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”

18. A dyma Michea'n dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo.

19. A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy'n gallu twyllo Ahab, brenin Israel, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a cael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol.

20. Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’

21. “‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai.“A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi di'n llwyddo i'w dwyllo.’

22. Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”

23. Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”

24. A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!”

25. Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 18