Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 18:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Jehosaffat yn gyfoethog iawn ac roedd parch mawr ato. Ond dyma fe'n gwneud cytundeb gwleidyddol gydag Ahab, a'i selio drwy gael ei fab i briodi merch Ahab.

2. Yna rai blynyddoedd yn ddiweddarach dyma fe'n mynd i ymweld ag Ahab yn Samaria. Dyma Ahab yn lladd llawer iawn o ddefaid a gwartheg i baratoi gwledd fawr i anrhydeddu Jehosaffat a'i swyddogion, a'i berswadio i fynd gydag e i ymosod ar Ramoth-gilead.

3. Dyma Ahab, brenin Israel, yn gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti. Bydd fy myddin yn dy helpu yn y frwydr.”

4. Ond yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”

5. Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. A dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?”A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!”

6. Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?”

7. A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e erioed wedi proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.”“Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat.

8. Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”

9. Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol, yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo.

10. Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’”

11. Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 18