Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 16:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd Asa wedi bod yn frenin ers bron dri deg chwech o flynyddoedd, dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.

2. Dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'i anfon gyda'r neges yma i Ben-hadad, brenin Syria, yn Damascus:

3. “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon yr arian a'r aur yma i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”

4. Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n taro Ïon, Dan, Abel-maim a canolfannau storfeydd Nafftali.

5. Pan glywodd Baasha am hyn, dyma fe'n rhoi'r gorau i'r prosiect o adeiladu Rama.

6. A dyma'r brenin Asa yn anfon pobl Jwda i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.

7. Tua'r adeg honno dyma'r proffwyd Chanani yn mynd at Asa, brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystio'r ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria.

8. Oedd gan yr Affricaniaid a'r Libiaid ddim byddinoedd mawr gyda llawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am dy fod wedi trystio'r ARGLWYDD dyma fe'n gadael i ti ennill y frwydr.

9. Mae'r ARGLWYDD yn gwylio popeth sy'n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu'r rhai sy'n ei drystio fe'n llwyr. Ti wedi bod yn ffŵl. Byddi di'n ymladd rhyfeloedd yn ddi-stop o hyn ymlaen.”

10. Roedd Asa wedi gwylltio gyda'r proffwyd am siarad fel yna, a dyma fe'n ei roi yn y carchar. Bryd hynny dechreuodd Asa orthrymu rhai o'r bobl hefyd.

11. Mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda ac Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 16