Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 15:12-19 beibl.net 2015 (BNET)

12. Wedyn dyma nhw'n gwneud ymrwymiad i geisio yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, o ddifrif.

13. Byddai pawb oedd yn gwrthod gwneud hynny yn cael eu lladd, hen ac ifanc, dynion a merched.

14. Dyma nhw'n tyngu llw i'r ARGLWYDD gan weiddi, canu utgyrn a chwythu'r corn hwrdd.

15. Roedd pobl Jwda i gyd yn hapus i gymryd y llw, achos roedden nhw'n hollol o ddifrif. Roedden nhw wedi ceisio'r ARGLWYDD, ac roedd yntau wedi ymateb. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddyn nhw o bob cyfeiriad.

16. Yna dyma'r Brenin Asa yn diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam-frenhines, am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, ei falu'n fân, a'i losgi wrth Nant Cidron.

17. Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol yn Israel roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.

18. Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi eu cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml Dduw.

19. Fuodd dim rhyfel arall nes oedd Asa wedi bod yn frenin am dri deg pump o flynyddoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 15