Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 13:14-22 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dyma filwyr Jwda yn gweld y byddai'n rhaid iddyn nhw ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl, a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma'r offeiriad yn canu'r utgyrn,

15. a dynion Jwda yn rhoi bloedd i ymosod, a dyma Duw yn taro Jeroboam a byddin Israel gyfan o flaen Abeia a byddin Jwda.

16. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen Jwda, a dyma Duw yn eu rhoi yng ngafael dynion Jwda.

17. Lladdodd Abeia a'i ddynion nifer fawr ohonyn nhw. Roedd pum can mil o ddynion gorau Israel wedi syrthio'n farw.

18. Collodd Israel y frwydr y diwrnod hwnnw, ac ennillodd Jwda am ei bod wedi dibynnu ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

19. Dyma Abeia yn ymlid ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno drefi Bethel, Ieshana ac Effron a'r pentrefi o'u cwmpas.

20. Wnaeth Jeroboam ddim ennill grym yn ôl yn ystod cyfnod Abeia. Yna dyma'r ARGLWYDD yn ei daro a bu farw.

21. Yn y cyfamser roedd Abeia'n dod yn fwy a mwy pwerus. Roedd ganddo un deg pedair o wragedd, ac roedd yn dad i ddau ddeg dau o feibion ac un deg chwech o ferched.

22. Mae gweddill hanes Abeia, beth wnaeth e a'r pethau ddwedodd e, i'w gweld yn ysgrifau'r proffwyd Ido.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 13