Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 13:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth Abeia yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd.

2. Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Michaia, merch Wriel o Gibea.Dyma ryfel yn dechrau rhwng Abeia a Jeroboam.

3. Aeth Abeia allan i ryfel gyda byddin o filwyr dewr. Roedd ganddo bedwar can mil o ddynion arbennig. Dyma Jeroboam yn dod allan yn ei erbyn gyda byddin o wyth can mil o filwyr profiadol dewr.

4. Dyma Abeia'n sefyll ar Fynydd Semaraïm sydd ym mryniau Effraim, a dweud, “Jeroboam ac Israel gyfan, gwrandwch arna i.

5. Onid ydych chi'n gwybod bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi ymrwymo i roi'r frenhiniaeth i Dafydd a'i ddisgynyddion am byth? – a fydd hynny byth yn newid.

6. Ond mae Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, wedi gwrthryfela yn erbyn ei feistr.

7. Casglodd griw o rapsgaliwns diwerth o'i gwmpas. Yna dyma fe'n herio Rehoboam, mab Solomon, pan oedd e'n ifanc ac ofnus ac heb ddigon o nerth i sefyll yn ei erbyn.

8. “A nawr dyma chi yn bwriadu sefyll yn erbyn teyrnas yr ARGLWYDD sydd wedi cael ei rhoi i ddisgynyddion Dafydd. Dych chi'n llu mawr gyda'r ddau darw aur mae Jeroboam wedi gwneud i fod yn dduwiau i chi.

9. Ond dych chi wedi cael gwared a'r offeiriaid, meibion Aaron a'r Lefiaid, ac wedi gwneud offeiriaid eraill i chi'ch hunain fel y cenhedloedd. Bellach mae unrhyw un sy'n dod i gysegru ei hunan gyda tarw ifanc a saith hwrdd yn cael bod yn offeiriad i'r duw sydd ddim yn dduw.

10. Ond ein Duw ni ydy'r ARGLWYDD, a dŷn ni heb droi oddi wrtho. Meibion Aaron ydy'n hoffeiriaid sy'n ei wasanaethu, a'r Lefiaid yn eu helpu.

11. Maen nhw'n llosgi aberthau ac arogldarth persawrus i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr. Nhw hefyd sy'n rhoi'r bara i'w osod ar y bwrdd sanctaidd, ac yn cynnau'r lampau ar y ganhwyllbren aur bob gyda'r nos. Dŷn ni'n dal i gadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Duw, ond dych chi wedi troi oddi wrtho.

12. Sylwch, Duw ydy'n capten ni a thrwmpedau ei offeiriaid e sy'n ein galw i ryfel. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn Duw eich hynafiaid. Fyddwch chi ddim yn llwyddo.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 13