Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 11:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a wnaethon nhw ddim ymosod ar Jeroboam.

5. Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol:

6. Bethlehem, Etam, Tecoa,

7. Beth-Tswr, Socho, Adwlam,

8. Gath, Maresha, Siff,

9. Adoraim, Lachish, Aseca,

10. Sora, Aialon, a Hebron. Dyma'r trefi amddiffynnol oedd yn Jwda a Benjamin.

11. Dyma fe'n cryfhau'r amddiffynfeydd, gosod swyddogion milwrol yno, ac adeiladu stordai i gadw bwyd, olew olewydd a gwin.

12. Roedd tariannau a gwaywffyn ym mhob un o'r trefi. Gwnaeth nhw'n hollol saff, a dyna sut cadwodd ei afael ar Jwda a Benjamin.

13. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid o bob rhan o Israel yn ei gefnogi.

14. Roedd y Lefiaid hyd yn oed wedi gadael eu tir a'u heiddo a symud i Jwda ac i Jerwsalem, achos roedd Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro nhw rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.

15. Roedd wedi penodi ei offeiriaid ei hun i wasanaethu wrth yr allorau lleol, ac arwain y bobl i addoli gafr-ddemoniaid a'r teirw ifanc roedd e wedi eu gwneud.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 11