Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 11:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth Rehoboam yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.

2. Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan yr ARGLWYDD.

3. “Dywed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Israel yn Jwda a Benjamin:

4. ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a wnaethon nhw ddim ymosod ar Jeroboam.

5. Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol:

6. Bethlehem, Etam, Tecoa,

7. Beth-Tswr, Socho, Adwlam,

8. Gath, Maresha, Siff,

9. Adoraim, Lachish, Aseca,

10. Sora, Aialon, a Hebron. Dyma'r trefi amddiffynnol oedd yn Jwda a Benjamin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 11