Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 10:8-16 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu eu cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e.

9. Dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy'n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?”

10. A dyma'r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dywed wrth y bobl yna sy'n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi ei roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad!

11. Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i'n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!’”

12. Dyma Jeroboam, a'r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud.

13. Dyma'r brenin Rehoboam yn siarad yn chwyrn gyda nhw ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn,

14. a gwrando ar y dynion ifanc.“Oedd fy nhad drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i yn pwyso'n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!”

15. Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw Duw tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi ei rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.

16. Gwelodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, a dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo:“Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd?Ydyn ni'n perthyn i deulu Jesse? Na!Yn ôl adre bobl Israel!Cei di gadw dy linach dy hun, Dafydd!”Felly dyma bobl Israel yn mynd adre.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 10