15. Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw Duw tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi ei rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.
16. Gwelodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, a dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo:“Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd?Ydyn ni'n perthyn i deulu Jesse? Na!Yn ôl adre bobl Israel!Cei di gadw dy linach dy hun, Dafydd!”Felly dyma bobl Israel yn mynd adre.
17. (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.)
18. Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem.
19. Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw.