Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 10:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i'w wneud yn frenin.

2. Roedd Jeroboam fab Nebat yn yr Aifft ar y pryd. Roedd wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yno pan glywodd beth oedd yn digwydd.

3. Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe'n mynd gyda nhw i weld Rehoboam.

4. “Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.”

5. Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw'n ei adael.

6. Dyma'r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw.) “Beth ydy'ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?”

7. A dyma nhw'n dweud, “Os byddi di'n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw'n weision ffyddlon i ti am byth.”

8. Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu eu cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e.

9. Dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy'n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 10