Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 1:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Solomon fab Dafydd wedi sefydlu ei awdurdod dros ei deyrnas, achos roedd yr ARGLWYDD ei Dduw yn ei helpu ac wedi ei wneud yn frenin pwerus iawn.

2. Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel i gyd at ei gilydd – arweinwyr y fyddin (sef capteiniaid ar unedau o fil ac o gant), y barnwyr, a holl arweinwyr Israel oedd yn benaethiaid teuluoedd.

3. A dyma Solomon a'r bobl i gyd yn mynd i addoli wrth yr allor leol yn Gibeon, gan mai dyna ble roedd Pabell Presenoldeb Duw – yr un roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei gwneud yn yr anialwch.

4. (Roedd Dafydd wedi dod ag Arch Duw o Ciriath-iearim i Jerwsalem, sef y lle roedd wedi ei baratoi iddi, ac wedi codi pabell iddi yno.

5. Ond roedd yr allor bres wnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr Hur, o flaen Tabernacl yr ARGLWYDD.) Dyna lle'r aethon nhw i geisio Duw.

6. A dyma Solomon yn mynd at yr allor bres o flaen yr ARGLWYDD, ac offrymu mil o aberthau i'w llosgi arni.

7. Y noson honno dyma Duw yn dod at Solomon a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?”

8. A dyma Solomon yn ateb, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad, ac rwyt wedi fy ngwneud i yn frenin yn ei le.

9. O, ARGLWYDD Dduw, gwna i'r addewid honno wnest ti i Dafydd fy nhad ddod yn wir. Ti wedi fy ngwneud i'n frenin ar gymaint o bobl ag sydd o lwch ar y ddaear.

10. Rho i mi'r ddoethineb a'r wybodaeth sydd ei angen i lywodraethu'r bobl yma'n iawn. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?”

11. A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn – a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir –

12. dw i'n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 1