Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 9:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Eliseus, y proffwyd, yn galw un o aelodau'r urdd o broffwydi, a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y botel yma o olew olewydd, a dos i Ramoth-gilead.

2. Wedi i ti gyrraedd yno, edrych am Jehw (mab Jehosaffat ac ŵyr i Nimshi). Dos ag e o ganol ei ffrindiau, i ystafell ar wahân.

3. Yna cymer y botel a tywallt yr olew ar ei ben a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.’ Wedyn agor y drws a rheda i ffwrdd heb oedi.”

4. Dyma'r proffwyd ifanc yn mynd i Ramoth-gilead.

5. Pan gyrhaeddodd e, dyna lle roedd swyddogion y fyddin yn cyfarfod â'i gilydd. “Capten, mae gen i neges i ti,” meddai.A dyma Jehw yn gofyn, “I ba un ohonon ni?”“I ti, syr,” meddai'r proffwyd.

6. Felly dyma Jehw yn codi a mynd i mewn i'r tŷ. Yna dyma'r proffwyd yn tywallt yr olew ar ei ben a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.

7. Rwyt i ddinistrio teulu Ahab. Dyna sut bydda i'n dial ar Jesebel am ladd fy ngweision y proffwydi, a pawb arall oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD.

8. Dw i'n mynd i roi diwedd ar linach Ahab.Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel,sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.

9. “‘Bydda i'n gwneud yr un peth i linach Ahab ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa.

10. Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel. Fydd hi ddim yn cael ei chladdu.’” Yna dyma'r proffwyd yn agor y drws a rhedeg i ffwrdd.

11. Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?”A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.”

12. “Ti a dy gelwyddau!” medden nhw, “Dywed wrthon ni beth ddwedodd e.”Felly dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma beth ddwedodd e, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 9