Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. dyma'r brenin yn dweud wrth Hasael, ei swyddog, “Dos i weld y proffwyd, a dos â rhodd gyda ti. Gofyn iddo holi'r ARGLWYDD os bydda i yn gwella o'r salwch yma.”

9. Felly, dyma Hasael yn mynd i weld y proffwyd, gyda rhodd iddo – pethau gorau Damascus wedi eu llwytho ar bedwar deg o gamelod. Dyma fe'n sefyll o'i flaen a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad, brenin Syria, eisiau gwybod fydd e'n gwella o'r salwch yma?”

10. Dyma Eliseus yn ateb, “Dos a dywed wrtho, ‘Rwyt ti'n bendant yn mynd i wella.’ Ond mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd e'n marw.”

11. Roedd Eliseus yn syllu ar Hasael, nes iddo ddechrau teimlo'n anghyfforddus. Yna dyma'r proffwyd yn dechrau crïo.

12. Dyma Hasael yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n crïo, syr?”A dyma Eliseus yn ateb, “Am mod i'n gwybod y niwed wyt ti'n mynd i'w wneud i bobl Israel. Ti'n mynd i losgi'n trefi ni a lladd ein dynion ifanc yn y rhyfel. Byddi'n curo'n plant bach i farwolaeth, ac yn rhwygo'r gwragedd beichiog yn agored.”

13. A dyma Hasael yn gofyn, “Sut allwn i wneud pethau mor ofnadwy? Dw i ddim gwell na ci bach.”Atebodd Eliseus, “Mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y byddi di'n frenin ar Syria.”

14. A dyma fe'n gadael Eliseus a mynd yn ôl at ei feistr. Pan ofynnodd hwnnw iddo, “Beth ddwedodd Eliseus wrthot ti?” Dyma fe'n ateb, “Dwedodd dy fod ti'n bendant yn mynd i wella.”

15. Ond y diwrnod wedyn, dyma Hasael yn cymryd blanced a'i gwlychu, ac yna ei rhoi dros wyneb Ben-hadad a'i fygu. Felly bu farw Ben-hadad, a dyma Hasael yn dod yn frenin yn ei le.

16. Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel ers pum mlynedd pan gafodd Jehoram, mab Jehosaffat, ei wneud yn frenin ar Jwda.

17. Roedd yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd.

18. Ond roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

19. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio Jwda o achos ei was Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8