Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig y daeth e a'i mab hi yn ôl yn fyw, “Dylet ti a dy deulu symud i fyw i rywle arall dros dro. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud fod newyn yn mynd i daro Israel am saith mlynedd.”

2. Ac roedd hi wedi gwneud fel roedd y proffwyd yn dweud. Roedd hi a'i theulu wedi mynd i fyw i wlad y Philistiaid.

3. Yna, ar ddiwedd y saith mlynedd, dyma hi a'i theulu'n dod yn ôl. A dyma hi'n mynd at y brenin i apelio am gael ei thŷ a'i thir yn ôl.

4. Yn digwydd bod, roedd y brenin wrthi'n siarad â Gehasi, gwas Eliseus. Roedd e wedi gofyn i Gehasi ddweud wrtho am yr holl bethau rhyfeddol roedd Eliseus wedi eu gwneud.

5. A tra roedd Gehasi yn adrodd hanes Eliseus yn dod â'r bachgen marw yn ôl yn fyw, dyma'r wraig (sef mam y bachgen) yn cyrraedd i ofyn am ei thŷ a'i thir. A dyma Gehasi'n dweud, “Syr, fy mrenin, hon ydy'r union wraig roeddwn i'n sôn amdani; ei mab hi wnaeth Eliseus ei godi yn ôl yn fyw!”

6. Dyma'r brenin yn ei holi hi, a dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Yna dyma fe'n penodi swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho ei heiddo i gyd yn ôl iddi; a hefyd gynnyrch y tir am y cyfnod y buodd hi i ffwrdd.”

7. Dyma Eliseus yn mynd i Damascus, prifddinas Syria. Roedd Ben-hadad, brenin Syria yn sâl. Pan ddwedon nhw wrth y brenin fod proffwyd Duw wedi cyrraedd,

8. dyma'r brenin yn dweud wrth Hasael, ei swyddog, “Dos i weld y proffwyd, a dos â rhodd gyda ti. Gofyn iddo holi'r ARGLWYDD os bydda i yn gwella o'r salwch yma.”

9. Felly, dyma Hasael yn mynd i weld y proffwyd, gyda rhodd iddo – pethau gorau Damascus wedi eu llwytho ar bedwar deg o gamelod. Dyma fe'n sefyll o'i flaen a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad, brenin Syria, eisiau gwybod fydd e'n gwella o'r salwch yma?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8