Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:32-44 beibl.net 2015 (BNET)

32. Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely.

33. Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr ARGLWYDD.

34. Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo.

35. Yna dyma Eliseus yn codi ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.

36. Dyma Eliseus yn galw Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a pan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.”

37. Dyma hi'n syrthio ar ei gliniau wrth ei draed. Yna dyma hi'n codi ei mab a mynd allan.

38. Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad. Roedd aelodau'r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe'n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.”

39. Dyma un o'r proffwydi yn mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o'r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a'u torri'n fân ac yna eu taflu i'r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw.

40. Dyma godi'r cawl a'i rannu i'r dynion. Ond wrth ei flasu dyma nhw'n gweiddi, “Broffwyd Duw, mae'r cawl yma'n wenwynig!” Allen nhw ddim ei fwyta.

41. “Dewch â blawd i mi,” meddai Eliseus. Yna dyma fe'n taflu'r blawd i'r crochan, a dweud, “Iawn, gallwch ei rannu nawr, i'r dynion gael bwyta”. A doedd dim byd drwg yn y crochan.

42. Dyma ddyn o Baal-shalisha yn dod â bara wedi ei wneud o ffrwyth cynta'r cynhaeaf i'r proffwyd – dau ddeg torth haidd a tywysennau o rawn aeddfed. Dyma Eliseus yn dweud, “Rhowch nhw i'r dynion gael bwyta.”

43. Ond dyma'r un oedd yn gweini yn dweud, “Sut alla i fwydo cant o ddynion gyda hyn?”“Rho fe iddyn nhw,” meddai Eliseus, “achos mae'r ARGLWYDD wedi dweud y byddan nhw'n bwyta, a bydd peth dros ben.”

44. Felly dyma fe'n rhoi'r bara iddyn nhw, ac roedd peth dros ben, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4