Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:27-36 beibl.net 2015 (BNET)

27. Ond pan gyrhaeddodd hi'r proffwyd ar y mynydd dyma hi'n gafael yn ei draed.Dyma Gehasi yn mynd ati gan feddwl ei symud, ond dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.”

28. Yna dyma hi'n dweud wrtho, “Syr, wnes i ofyn i ti am fab? Wnes i ddim pledio arnat ti i beidio dweud celwydd wrtho i?”

29. Dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a cyffwrdd wyneb y bachgen gyda'r ffon.”

30. Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi.

31. Roedd Gehasi wedi mynd o'u blaenau nhw, ac wedi rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i'w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”

32. Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely.

33. Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr ARGLWYDD.

34. Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo.

35. Yna dyma Eliseus yn codi ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.

36. Dyma Eliseus yn galw Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a pan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4