Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:2-11 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dyma Eliseus yn ateb, “Be alla i wneud? Dywed wrtho i, be sydd gen ti yn y tŷ?”“Does gen i ddim byd ond jar bach o olew, syr,” meddai.

3. Yna dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion.

4. Yna dos i'r tŷ gyda dy feibion, a cau'r drws tu ôl i ti. Tywallt olew i bob un llestr a rhoi'r rhai llawn ar un ochr.”

5. Felly dyma hi'n mynd i wneud hynny, ac yn cau'r drws arni hi a'i dau fab. Wrth i'w meibion ddod â mwy a mwy o lestri iddi, roedd hi'n eu llenwi gyda'r olew.

6. Pan oedd hi wedi llenwi'r llestri i gyd, dyma hi'n dweud wrth ei mab, “Tyrd â potyn arall i mi.”Ond dyma fe'n ateb, “Does dim mwy ar ôl.” A dyma'r olew yn darfod.

7. Pan aeth hi i ddweud wrth y proffwyd beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n dweud wrthi, “Dos i werthu'r olew a talu dy ddyledion. Wedyn cei di a dy feibion fyw ar yr arian fydd dros ben.”

8. Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem. Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, ac dyma hi'n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e'n arfer galw heibio am bryd o fwyd.

9. Roedd y wraig wedi bod yn siarad gyda'i gŵr, “Gwranda, dw i'n siŵr fod y dyn sy'n galw heibio yma o hyd yn broffwyd arbennig – yn ddyn sanctaidd iawn.

10. Gad i ni wneud llofft fach ar y to, a rhoi gwely a bwrdd a chadair a lamp yno. Wedyn pan fydd e'n galw heibio, bydd ganddo le i aros.”

11. Felly pan alwodd heibio'r tro wedyn, dyma Eliseus yn aros yn y llofft.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4