Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:18-34 beibl.net 2015 (BNET)

18. Ychydig flynyddoedd wedyn pan oedd y bachgen ddigon hen, roedd wedi mynd allan at ei dad adeg y cynhaeaf.

19. Yn sydyn dyma fe'n gweiddi ar ei dad, “O, fy mhen! Mae fy mhen i'n brifo.”Dyma'r tad yn dweud wrth un o'r gweision, “Dos ag e at ei fam.”

20. Dyma hwnnw'n ei gario yn ôl at ei fam, a bu'n eistedd ar ei glin drwy'r bore. Ond yna ganol dydd dyma fe'n marw.

21. Dyma hi'n ei gario i fyny i lofft y proffwyd, a'i roi i orwedd ar y gwely.Yna dyma hi'n mynd allan

22. a galw ar ei gŵr, “Dw i angen mynd i weld y proffwyd. Gad i mi gael un o'r gweision ac asen i mi fynd i'w weld ar frys ac yna dod yn ôl.”

23. “Pam wyt ti angen mynd i'w weld e heddiw?” meddai'r gŵr. “Dydy hi ddim yn Ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.”“Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai.

24. Ar ôl i'r asen gael ei chyfrwyo, dyma hi'n dweud wrth y gwas, “Tyrd, gad i ni fynd yn gyflym. Paid arafu oni bai fy mod i'n dweud wrthot ti.”

25. Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd.Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw.

26. Brysia, rhed i'w chyfarfod, a gofyn iddi os ydy popeth yn iawn gyda hi a'i gŵr, a'i phlentyn.”“Ydy, mae popeth yn iawn,” oedd ei hateb i Gehasi.

27. Ond pan gyrhaeddodd hi'r proffwyd ar y mynydd dyma hi'n gafael yn ei draed.Dyma Gehasi yn mynd ati gan feddwl ei symud, ond dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.”

28. Yna dyma hi'n dweud wrtho, “Syr, wnes i ofyn i ti am fab? Wnes i ddim pledio arnat ti i beidio dweud celwydd wrtho i?”

29. Dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a cyffwrdd wyneb y bachgen gyda'r ffon.”

30. Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi.

31. Roedd Gehasi wedi mynd o'u blaenau nhw, ac wedi rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i'w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”

32. Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely.

33. Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr ARGLWYDD.

34. Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4