Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 3:15-26 beibl.net 2015 (BNET)

15. Nawr dewch â rhywun sy'n canu'r delyn ata i.” Wrth i'r telynor ganu dyma Eliseus yn dod dan ddylanwad yr ARGLWYDD.

16. A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnewch ffosydd yn y dyffryn yma.’

17. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Welwch chi ddim gwynt na glaw, ond bydd y dyffryn yma'n llawn dŵr. Byddwch chi a'ch anifeiliaid yn gallu yfed.’

18. Mae'n beth mor hawdd i'r ARGLWYDD ei wneud. A byddwch chi'n ennill y frwydr yn erbyn Moab hefyd.

19. Dych chi i ddinistrio'r caerau amddiffynnol a'r trefi pwysig eraill i gyd. Dych chi i dorri'r coed ffrwythau i gyd, llenwi pob ffynnon gyda pridd, a difetha pob darn o dir da gyda cherrig.”

20. Y bore wedyn, tua'r adeg roedden nhw'n arfer cyflwyno aberth i'r ARGLWYDD, dyma ddŵr yn dechrau llifo i lawr o gyfeiriad Edom a llenwi pobman.

21. Roedd pobl Moab wedi clywed fod y brenhinoedd yn ymosod. Felly dyma nhw'n galw pawb oedd ddigon hen i gario arfau at ei gilydd, a mynd i ddisgwyl wrth y ffin.

22. Pan gododd byddin Moab y bore wedyn, roedd yr haul yn tywynnu ar y dŵr. Roedd yn edrych yn goch fel gwaed i bobl Moab.

23. “Mae'n rhaid bod y brenhinoedd wedi ymladd yn erbyn ei gilydd,” medden nhw. “Dewch, bobl Moab, i gasglu'r ysbail!”

24. Ond pan gyrhaeddon nhw wersyll Israel, dyma fyddin Israel yn codi ac ymosod arnyn nhw, nes i Moab orfod ffoi. Aeth byddin Israel ar eu holau a'u taro.

25. Dyma nhw'n dinistrio'r trefi i gyd, ac roedd pob dyn yn taflu carreg ar y tir da nes roedd y caeau'n llawn cerrig. Dyma nhw'n llenwi pob ffynnon gyda phridd, a torri i lawr pob coeden ffrwythau. Yn y diwedd dim ond Cir-chareseth oedd ar ôl. A dyma'r milwyr gyda ffyn tafl yn ei hamgylchynu ac ymosod arni hithau hefyd.

26. Pan oedd brenin Moab yn gweld ei fod yn colli'r frwydr, dyma fe'n mynd â saith gant o filwyr gyda chleddyfau i geisio torri trwy rengoedd brenin Edom; ond methu wnaeth e.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 3