6. Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.
7. Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o'i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro'r holl diroedd roedd e'n arfer eu rheoli, o Wadi'r Aifft i Afon Ewffrates.
8. Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem).
9. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei dad o'i flaen.
10. Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae ar Jerwsalem.
11. Tra roedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad.
12. A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.
13. Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio.
14. A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.
15. Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd.
16. Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd.
17. Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.