Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 24:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio.

14. A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.

15. Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd.

16. Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd.

17. Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.

18. Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).

19. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y brenin Jehoiacim.

20. Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 24