Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. Yna dyma fe'n sacio'r offeiriaid ffals oedd wedi eu penodi gan frenhinoedd Jwda i losgi arogldarth ar yr allorau lleol yn nhrefi Jwda ac o gwmpas Jerwsalem (llosgi arogldarth i Baal, ac i'r haul, lleuad, planedau a sêr).

6. Yna dyma fe'n symud polyn y dduwies Ashera o'r deml, a mynd ag e allan o Jerwsalem i ddyffryn Cidron, a'i losgi yno. Wedyn malu beth oedd ar ôl yn llwch mân, a taflu'r llwch i'r fynwent gyhoeddus.

7. Wedyn, dyma fe'n chwalu ystafelloedd y puteinwyr yn y deml, wrth ymyl lle roedd y merched yn gwau llenni ar gyfer Ashera.

8. Dyma fe'n symud yr offeiriaid i gyd o drefi Jwda, a difetha'r holl allorau lleol lle buon nhw'n llosgi arogldarth – o Geba i Beersheba. Wedyn dyma fe'n chwalu'r allorau i'r gafr-ddemoniaid oedd wrth giât Josua, rheolwr y ddinas – ar y chwith wrth fynd drwy'r giât i'r ddinas.

9. Doedd offeiriaid yr allorau lleol ddim yn cael gwasanaethu wrth allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. Ond roedden nhw yn cael bwyta'r bara heb furum ynddo gyda'u cyd-offeiriaid.

10. Dyma fe'n difetha'r Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab neu ferch yn aberth i'r duw Molech.

11. A dyma fe'n cael gwared â'r ceffylau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu cysegru i'r haul (roedden nhw yn yr iard, wrth y fynedfa i'r deml, wrth ymyl tŷ Nathan-melech, swyddog y palas), a llosgi cerbydau'r haul.

12. Yna dyma fe'n chwalu'r allorau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu codi ar y to uwchben llofft Ahas, a'r allorau roedd Manasse wedi eu hadeiladu yn y ddwy iard yn y deml. Malodd nhw'n lwch mân a thaflu'r llwch i ddyffryn Cidron.

13. Wedyn chwalu'r allorau lleol paganaidd oedd i'r dwyrain o Jerwsalem ac i'r de o Fynydd y Llygredd, y rhai oedd wedi eu hadeiladu gan y Brenin Solomon i'r duwiau ffiaidd, Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon).

14. Dyma Joseia'n malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a gwasgaru esgyrn dynol lle roedden nhw'n arfer bod.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23