Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:19-31 beibl.net 2015 (BNET)

19. Dyma Joseia hefyd yn cael gwared â'r temlau ar allorau lleol oedd yn nhrefi Samaria. Brenhinoedd Israel oedd wedi eu codi nhw, ac wedi digio'r ARGLWYDD drwy wneud hynny. Gwnaeth Joseia'r un peth i'r allorau hynny ag roedd wedi ei wneud i'r allor leol yn Bethel.

20. Dyma fe'n lladd offeiriaid y temlau, a llosgi esgyrn dynol ar yr allorau.Ar ôl gwneud hyn i gyd, dyma Joseia'n mynd yn ôl i Jerwsalem.

21. Yna dyma'r brenin Joseia yn gorchymyn i'r bobl, “Dych chi i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD eich Duw, yn union fel mae'n dweud yn sgrôl yr ymrwymiad yma.”

22. Doedd y Pasg ddim wedi cael ei gadw fel yma ers cyfnod y barnwyr – dim drwy holl gyfnod brenhinoedd Israel a Jwda.

23. Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.

24. Roedd Joseia hefyd wedi cael gwared â phawb oedd yn ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw, pob eilun-ddelw teuluol a'r eilunod ffiaidd eraill oedd i'w gweld yn Jwda a Jerwsalem. Gwnaeth ei orau glas i gadw gofynion y gyfraith oedd ar y sgrôl roedd Chilceia'r offeiriad wedi dod o hyd iddi yn y deml.

25. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo o'i flaen nac ar ei ôl. Roedd wedi troi at yr ARGLWYDD â'i holl galon, ei holl enaid a'i holl nerth, i wneud fel mae Cyfraith Moses yn gofyn.

26. Ac eto, roedd yr ARGLWYDD yn dal yn ddig gyda Jwda; roedd yr holl bethau oedd Manasse wedi eu gwneud wedi ei ddigio fe gymaint.

27. Dwedodd, “Dw i'n mynd i droi cefn ar Jwda fel dw i wedi gwneud gydag Israel. Dw i'n mynd i wrthod y ddinas yma roeddwn i wedi ei dewis – Jerwsalem, a'r deml y dwedais i amdani, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’”

28. Mae gweddill hanes Joseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

29. Yn ystod cyfnod Joseia roedd Pharo Necho, brenin yr Aifft, wedi mynd at yr Afon Ewffrates i helpu brenin Asyria. Dyma Joseia yn arwain ei fyddin allan i ymladd yn ei erbyn, ond dyma Pharo Necho yn lladd Joseia yn y frwydr yn Megido.

30. Dyma ei weision yn mynd â'i gorff yn ôl o Megido i Jerwsalem mewn cerbyd rhyfel, a cafodd ei gladdu yn ei fedd ei hun. Yna dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.

31. Roedd Jehoachas yn ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23