Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Dyma fe'n difetha'r Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab neu ferch yn aberth i'r duw Molech.

11. A dyma fe'n cael gwared â'r ceffylau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu cysegru i'r haul (roedden nhw yn yr iard, wrth y fynedfa i'r deml, wrth ymyl tŷ Nathan-melech, swyddog y palas), a llosgi cerbydau'r haul.

12. Yna dyma fe'n chwalu'r allorau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu codi ar y to uwchben llofft Ahas, a'r allorau roedd Manasse wedi eu hadeiladu yn y ddwy iard yn y deml. Malodd nhw'n lwch mân a thaflu'r llwch i ddyffryn Cidron.

13. Wedyn chwalu'r allorau lleol paganaidd oedd i'r dwyrain o Jerwsalem ac i'r de o Fynydd y Llygredd, y rhai oedd wedi eu hadeiladu gan y Brenin Solomon i'r duwiau ffiaidd, Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon).

14. Dyma Joseia'n malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a gwasgaru esgyrn dynol lle roedden nhw'n arfer bod.

15. Dyma fe hyd yn oed yn chwalu'r allor oedd Jeroboam fab Nebat wedi ei chodi yn Bethel (yr un wnaeth i Israel bechu). Tynnodd yr allor a'r man sanctaidd i lawr a'u llosgi. Malodd yr allor leol yn llwch mân a llosgi polion y dduwies Ashera.

16. Pan drôdd rownd dyma Joseia'n sylwi fod beddau ar ochr y bryn. Felly dyma fe'n anfon dynion i nôl esgyrn dynol o'r beddau a'u llosgi nhw ar yr allor, i'w llygru hi. A dyna sut daeth y neges roddodd yr ARGLWYDD drwy ei broffwyd yn wir, pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn ystod rhyw Ŵyl.Yna dyma'r brenin Joseia yn digwydd sylwi ar fedd y proffwyd oedd wedi dweud y byddai hyn i gyd yn digwydd.

17. “Beth ydy'r garreg fedd yna?” gofynnodd.A dyma bobl Bethel yn ateb, “Dyna fedd y proffwyd ddaeth o Jwda a proffwydo'n union beth rwyt ti wedi ei wneud ar allor Bethel.”

18. A dyma Joseia'n dweud, “Gadwch lonydd iddo fe. Does neb i ymyrryd â'i esgyrn e.” Felly dyma nhw'n gadael llonydd i'w esgyrn e, ac esgyrn y proffwyd arall o ardal Samaria oedd wedi ei gladdu yna.

19. Dyma Joseia hefyd yn cael gwared â'r temlau ar allorau lleol oedd yn nhrefi Samaria. Brenhinoedd Israel oedd wedi eu codi nhw, ac wedi digio'r ARGLWYDD drwy wneud hynny. Gwnaeth Joseia'r un peth i'r allorau hynny ag roedd wedi ei wneud i'r allor leol yn Bethel.

20. Dyma fe'n lladd offeiriaid y temlau, a llosgi esgyrn dynol ar yr allorau.Ar ôl gwneud hyn i gyd, dyma Joseia'n mynd yn ôl i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23