Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 23:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem.

2. Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r proffwydi gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi ei darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb.

3. A dyma'r brenin yn sefyll wrth y piler ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a cadw ei orchmynion, ei ofynion, a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl. A dyma'r bobl yn sefyll i ddangos eu bod yn cytuno.

4. Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i Chilceia'r archoffeiriad a'r offeiriaid cynorthwyol a'r porthorion i gymryd allan o'r deml bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio i addoli Baal a'r dduwies Ashera a'r sêr. A dyma fe'n llosgi'r cwbl y tu allan i Jerwsalem ar gaeau teras Cidron, ac yna mynd â'r lludw i Bethel.

5. Yna dyma fe'n sacio'r offeiriaid ffals oedd wedi eu penodi gan frenhinoedd Jwda i losgi arogldarth ar yr allorau lleol yn nhrefi Jwda ac o gwmpas Jerwsalem (llosgi arogldarth i Baal, ac i'r haul, lleuad, planedau a sêr).

6. Yna dyma fe'n symud polyn y dduwies Ashera o'r deml, a mynd ag e allan o Jerwsalem i ddyffryn Cidron, a'i losgi yno. Wedyn malu beth oedd ar ôl yn llwch mân, a taflu'r llwch i'r fynwent gyhoeddus.

7. Wedyn, dyma fe'n chwalu ystafelloedd y puteinwyr yn y deml, wrth ymyl lle roedd y merched yn gwau llenni ar gyfer Ashera.

8. Dyma fe'n symud yr offeiriaid i gyd o drefi Jwda, a difetha'r holl allorau lleol lle buon nhw'n llosgi arogldarth – o Geba i Beersheba. Wedyn dyma fe'n chwalu'r allorau i'r gafr-ddemoniaid oedd wrth giât Josua, rheolwr y ddinas – ar y chwith wrth fynd drwy'r giât i'r ddinas.

9. Doedd offeiriaid yr allorau lleol ddim yn cael gwasanaethu wrth allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. Ond roedden nhw yn cael bwyta'r bara heb furum ynddo gyda'u cyd-offeiriaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 23