“Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma, ac y byddwn i'n eu gwneud nhw'n esiampl o bobl wedi eu melltithio, dyma ti'n rhwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen i, a dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.