Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Ond dyma Heseceia'n troi at y wal a gweddïo,

3. “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo.

4. Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e.

5. “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl,‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi'n mynd i deml yr ARGLWYDD.

6. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”

7. Yna dyma Eseia'n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”

8. Roedd Heseceia wedi gofyn i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr ARGLWYDD yn fy ngwella ac y bydda i'n mynd i fyny i'w deml y diwrnod ar ôl fory?”

9. Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae'n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i'r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’”

10. A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?”

11. Yna dyma'r proffwyd Eseia'n gweddïo, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas.

12. Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl.

13. Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!

14. Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw o wlad bell iawn – o Babilon.”

15. Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20