Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:15-21 beibl.net 2015 (BNET)

15. Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”

16. A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD:

17. ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD.

18. ‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’”

19. Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”

20. Mae gweddill hanes Heseceia, ei lwyddiant milwrol a'r ffaith iddo adeiladu'r gronfa ddŵr a'r sianel i gario dŵr i'r ddinas, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

21. Pan fu Heseceia farw, dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20