Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw.Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.”

2. Ond dyma Heseceia'n troi at y wal a gweddïo,

3. “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo.

4. Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e.

5. “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl,‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi'n mynd i deml yr ARGLWYDD.

6. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”

7. Yna dyma Eseia'n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”

8. Roedd Heseceia wedi gofyn i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr ARGLWYDD yn fy ngwella ac y bydda i'n mynd i fyny i'w deml y diwrnod ar ôl fory?”

9. Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae'n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i'r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’”

10. A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20