Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:3-11 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dyma aelodau o urdd proffwydi Bethel yn dod allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.

4. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho.

5. Dyma aelodau o urdd proffwydi Jericho yn mynd at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.

6. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at yr Afon Iorddonen.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau.

7. Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi eu dilyn nhw, a pan oedd y ddau yn sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell.

8. Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rholio, a taro'r dŵr gyda hi. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, ac dyma'r ddau yn croesi drosodd ar dir sych.

9. Ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?”“Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.

10. Dyma Elias yn ateb, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n mynd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.”

11. Wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a dyma Elias yn cael ei gipio i fyny i'r nefoedd gan y chwyrlwynt.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2