Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:11-18 beibl.net 2015 (BNET)

11. Wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a dyma Elias yn cael ei gipio i fyny i'r nefoedd gan y chwyrlwynt.

12. Roedd Eliseus yn ei weld, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Welodd e mohono fe wedyn. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau.

13. Yna dyma fe'n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan yr Afon Iorddonen.

14. Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy'r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi gadael hefyd?” Yna dyma fe'n taro'r dŵr gyda'r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a croesodd Eliseus i'r ochr arall.

15. Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw'n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw'n mynd ato a plygu i lawr o'i flaen.

16. “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma,” medden nhw. “Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi ei ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.”Dyma Eliseus yn ateb, “Na, peidiwch a'u hanfon nhw.”

17. Ond buon nhw'n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo'n annifyr. Felly dyma fe'n cytuno, a dyma'r proffwydi yn anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw'n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo.

18. Arhosodd Eliseus yn Jericho, nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2