Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i'r nefoedd mewn chwyrlwynt, roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal.

2. Dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n mynd i Bethel.

3. Dyma aelodau o urdd proffwydi Bethel yn dod allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.

4. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho.

5. Dyma aelodau o urdd proffwydi Jericho yn mynd at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.

6. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at yr Afon Iorddonen.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau.

7. Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi eu dilyn nhw, a pan oedd y ddau yn sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell.

8. Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rholio, a taro'r dŵr gyda hi. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, ac dyma'r ddau yn croesi drosodd ar dir sych.

9. Ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?”“Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2