Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 18:6-16 beibl.net 2015 (BNET)

6. Roedd yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ac yn cadw'r gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses.

7. Roedd yr ARGLWYDD gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu.

8. A concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr – o'r pentrefi lleiaf i'r trefi caerog mawr. Roedd yn rheoli'r wlad yr holl ffordd i dref Gasa a'r ardaloedd o'i chwmpas.

9. Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni

10. am bron ddwy flynedd cyn llwyddo i'w choncro hi. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel,

11. a dyma frenin Asyria yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.

12. Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyru'r gorchmynion roedd ei was Moses wedi eu rhoi iddyn nhw.

13. Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, a'u dal nhw.

14. A dyma Heseceia, brenin Jwda, yn anfon y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droi'n ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt ti'n ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o naw mil cilogram o arian a naw cant cilogram o aur i Heseceia, brenin Jwda.

15. Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria.

16. Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd e wedi ei roi ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 18