Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 18:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth Heseceia fab Ahas yn frenin ar Jwda yn ystod trydedd flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin Israel.

2. Dau ddeg pum mlwydd oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia.

3. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.

4. Dyma fe'n cael gwared â'r allorau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio'r sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi a'i galw'n Nechwshtan.

5. Roedd Heseceia'n trystio'r ARGLWYDD, Duw Israel. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo yn Jwda, o'i flaen nac ar ei ôl.

6. Roedd yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ac yn cadw'r gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses.

7. Roedd yr ARGLWYDD gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu.

8. A concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr – o'r pentrefi lleiaf i'r trefi caerog mawr. Roedd yn rheoli'r wlad yr holl ffordd i dref Gasa a'r ardaloedd o'i chwmpas.

9. Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni

10. am bron ddwy flynedd cyn llwyddo i'w choncro hi. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel,

11. a dyma frenin Asyria yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.

12. Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyru'r gorchmynion roedd ei was Moses wedi eu rhoi iddyn nhw.

13. Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, a'u dal nhw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 18