Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria â'r bobl yn gaethion i'w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.