Roedden nhw wedi anwybyddu gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi gwneud delwau metel o ddau darw ifanc, a codi polyn i'r dduwies Ashera. Roedden nhw'n plygu i'r haul a'r lleuad a'r sêr, ac yn addoli Baal.