Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 15:4-21 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.

5. Dyma'r ARGLWYDD yn ei daro'n wael – bu'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb am weddill ei oes. Jotham, mab y brenin, oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad ar y pryd.

6. Mae gweddill hanes Wseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

7. Pan fuodd Wseia farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Yna daeth Jotham, ei fab, yn frenin yn ei le.

8. Pan oedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am chwe mis.

9. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

10. Dyma Shalwm fab Jabesh, yn cynllwyn yn ei erbyn a'i ladd o flaen pawb, yna dod yn frenin yn ei le.

11. Mae gweddill hanes Sechareia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

12. Roedd y neges roedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Jehw wedi dod yn wir: “Bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” A dyna'n union oedd wedi digwydd.

13. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Shalwm fab Jabesh yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am fis.

14. Roedd Menachem fab Gadi wedi dod o Tirtsa i Samaria, a lladd Shalwm. Yna dyma fe'n dod yn frenin yn ei le.

15. Mae gweddill hanes Shalwm, a'r cynllwyn drefnodd e, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

16. Pan ddaeth Menachem o Tirtsa aeth i ymosod ar dre Tiffsa am i'r bobl yno wrthod ei dderbyn. Lladdodd bawb oedd yn byw yno ac yn yr ardal o gwmpas, a hyd yn oed rhwygo'n agored yr holl wragedd beichiog oedd yno.

17. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Menachem fab Gadi yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddeg mlynedd.

18. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ar hyd ei oes. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

19. Pan oedd Menachem yn frenin dyma Tiglath-Pileser, brenin Asyria, yn ymosod ar y wlad. Ond dyma Menachem yn rhoi tri deg pum mil cilogram o arian iddo, er mwyn ennill ei gefnogaeth a cadw'i afael yn ei safle fel brenin.

20. Roedd Menachem wedi codi'r arian drwy drethu pobl gyfoethog Israel. Cododd dreth o dros bum cant gram o arian ar bob un ohonyn nhw, a'i dalu i frenin Asyria. Felly dyma fyddin Tiglath-Pileser yn troi'n ôl; wnaethon nhw ddim aros yn y wlad.

21. Mae gweddill hanes Menachem, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 15