Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 15:24-38 beibl.net 2015 (BNET)

24. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

25. A dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwyn yn ei erbyn. Dyma hwnnw, gyda pum deg o ddynion o Gilead, yn torri i mewn i gaer y palas a lladd y brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn dod yn frenin.

26. Mae gweddill hanes Pecacheia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

27. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg dwy o flynyddoedd, pan ddaeth Pecach fab Remaleia, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddau ddeg o flynyddoedd.

28. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

29. Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd – trefi Ïon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a tir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria.

30. Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwyn yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ddau ddeg o flynyddoedd.

31. Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

32. Yn ystod yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia fel brenin ar Israel, daeth Jotham fab Wseia yn frenin at Jwda.

33. Roedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.

34. Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.

35. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Jotham wnaeth adeiladu Giât Uchaf y deml.

36. Mae gweddill hanes Jotham, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.

37. Dyma pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddechrau ysgogi Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, i ymosod ar Jwda.

38. Pan fuodd Jotham farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 15